Ian Watkins
Mae aelodau’r band Lostprophets wedi rhyddhau datganiad ar ôl i brif ganwr y grŵp, Ian Watkins, gael ei gadw yn y ddalfa ddoe ar gyhuddiad o droseddau rhyw.
Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys un cyhuddiad o gynllwynio i dreisio merch blwydd oed.
Mewn datganiad ar wefan y band dywedodd yr aelodau eraill eu bod nhw mewn “sioc” a’u bod nhw’n “dysgu am fanylion yr ymchwiliad gyda chi.”
“Mae’n gyfnod anodd i ni ac i’n teuluoedd, ac rydym ni eisiau diolch i’n dilynwyr am eu cefnogaeth wrth i ni chwilio am atebion.”
Cafodd y datganiad ei lofnodi gan weddill y band, “Jamie, Lee, Luke, Mike a Stu.”
Ddoe, roedd ynadon Caerdydd wedi gwrthod mechnïaeth i Ian Watkins, 35, o Bontypridd.
Mae cyhuddiadau eraill yn ei erbyn yn cynnwys pedwar cyhuddiad o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.
Mae dynes 24 oed o Bedford hefyd wedi ei chyhuddo o’r un troseddau ag ef, tra bod dynes 20 oed o Doncaster wedi ei chyhuddo o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.
Bydd y tri yn cael eu cadw yn y ddalfa tan Ragfyr 31, pan mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd.