Mae ymchwil gan Golwg360 wedi darganfod fod y prif gylchgronau llenyddol Saesneg yng Nghymru yn cael cymhorthdal o £25 am bob rhifyn sy’n cael ei werthu.
Derbyniodd Planet, New Welsh Review a Poetry Wales gyfanswm o £164,700 o nawdd y llynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi sefydlu arolwg annibynnol er mwyn ystyried “natur y cyhoeddiadau a’r modd gorau o gyrraedd cynulleidfa sydd bellach yn derbyn gwybodaeth ar ffurf print ac yn ddigidol.”
Mae’r arolwg annibynnol yn cael ei arwain gan Tony Bianchi, a gynhaliodd arolwg tebyg o’r wasg Gymraeg yn niwedd 2007. Mae disgwyl iddo adrodd yn ôl i’r Cyngor Llyfrau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma.
‘Gwerthiant yn her fawr’
Mewn ymateb dywedodd Elwyn Jones, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, fod “gan y cylchgronau Saesneg o Gymru a noddir gan y Cyngor Llyfrau rôl hynod bwysig yn trafod ein diwylliant a’n treftadaeth lenyddol gyfoethog yma yng Nghymru.
“Fel ym maes papurau dyddiol a chylchgronau ar draws Prydain mae gwerthiant yn her fawr iddynt ar hyn o bryd ac yr oedd hyn yn un o’r prif resymau i’r Cyngor gomisiynu arolwg o’r maes.
“Edrychwn ymlaen yn fawr i dderbyn adroddiad yr arolwg yn y flwyddyn newydd ac i ystyried yr argymhellion.”
Roedd cylchgronau llenyddol Saesneg wedi gwerthu 572 copi am bob rhifyn ar gyfartaledd y llynedd, a’r tri phrif gylchgrawn yn cyhoeddi pedwar rhifyn y flwyddyn.
Derbyniodd chwe chylchgrawn llenyddol Cymraeg £166,950 o gymhorthdal y llynedd, a gwerthodd pob rhifyn 781 o gopiau ar gyfartaledd.
Mae’r Cyngor Llyfrau eisoes wedi dyfarnu £165,747 i’r prif gyhoeddiadau llenyddol Saesneg hyd at 2014, a bydd y panel grantiau yn defnyddio canfyddiadau’r arolwg i benderfynu ar y cymhorthdal wedi hynny.
Stori: Rhidian Jones