Mae corff sy’n cynrychioli cerddorion Cymraeg wedi methu dod i gytundeb hyd yma gyda’r BBC ar daliadau i gerddorion.

Ddydd Mawrth cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng corff newydd Eos a’r BBC ac mae’r trafodaethau yn parhau rhwng y ddwy ochr ar ôl iddyn nhw fethu â chytuno ar y tâl i gyfansoddwyr am ddarlledu eu caneuon nhw.

“Fel mewn unrhyw gytundeb mae yna drafod telerau,” meddai cyfarwyddwr bwrdd Eos, Dafydd Roberts, wrth Golwg360.

Mae Golwg360 yn deall fod Radio Cymru yn cynnal cyfarfod y bore ma i drafod y mater.

Mae’r BBC eisoes wedi rhybuddio na fyddan nhw’n gallu chwarae miloedd o ganeuon Cymraeg os na fyddan nhw’n dod i gytundeb gyda’r cerddorion. Yn ôl Radio Cymru, fe allai’r ddadl arwain at dewi tua 20,000 o ganeuon gan brif artistiaid fel Bryn Fôn, Dafydd Iwan, Huw Chiswell ac Elin Fflur.

Mae Eos yn cynrychioli 297 o gyfansoddwyr a 34 o gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth, a chafodd y corff Cymreig ei sefydlu ar ôl i’r PRS ostwng taliadau am ganeuon Cymraeg.

Mae’r cyfansoddwyr a’r cyhoeddwyr Cymraeg yn galw am daliadau gwell na’r 50c y funud sydd ar gael ar hyn o bryd. Roedden nhw’n arfer cael £7.50 cyn i’r PRS newid y tâl i ganeuon Cymraeg am ddarllediadau mewn llefydd cyhoeddus, fel siopau a chanolfannau hamdden.