Gareth Thomas
Bydd cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Gareth ‘Alfie’ Thomas, yn ymddangos yng nghyfres newydd Dancing on Ice.

Bydd Gareth, 38, sydd hefyd wedi ymddangos ar raglenni realiti Celebrity Big Brother ar Channel 4 a cariad@iaith ar S4C, yn dawnsio gyda Robin Johnstone pan fydd y rhaglen yn dechrau ar ITV ar Ionawr 6.

Fe fydd yn cystadlu yn erbyn 11 o gystadleuwyr eraill gan gynnwys seren Hollywood Pamela Anderson, y cyflwynydd teledu Keith Chegwin, y mabolgampwraig Beth Tweddle a’r comedïwr Joe Pasquale.

Dywedodd Gareth Thomas ei fod yn “disgyn o leiaf unwaith y dydd, os nad dwy neu dair gwaith” a’i fod yn ceisio’i orau i beidio â siomi ei bartner.