Ian Watkins
Mae prif ganwr y Lostprophets wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ol cael ei gyhuddo o droseddau rhyw.

Roedd ynadon Caerdydd wedi gwrthod mechniaeth i Ian Watkins, 35, o Bontypridd.

Mae wedi ei gyhuddo o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13 oed ac o bedwar cyhuddiad o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.

Mae dynes 24 oed o Bedford hefyd wedi ei chyhuddo o’r un troseddau ag ef, tra bod dynes 20 oed o Doncaster wedi ei chyhuddo o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant, ond nid o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13.

Bydd y tri yn cael eu cadw yn y ddalfa tan Ragfyr 31, pan mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd.