Mae’r asiantaethau tywydd yn rhybuddio bod tywydd garw iawn yn debygol o daro Cymru yn ystod y deuddydd nesaf, ac mai digon stormus fydd hi tan dydd Calan.

Mae’r Swyddfa wedi cyhoeddi rhybydd melyn am dywydd garw ar gyfer De Cmru heddiw a bydd ardal y rhybydd yn ymestyn dros weddill Cymru yfory a dydd Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall 50mm o law syrthio yn ystod y cyfnod yma a gwyntoedd o hyd at 50 milltir yr awr chwythu mewn mannau dros y Sul.

Gall y gwyntoedd chwythu hyd at 90 milltir yr awr mewn rhannau o’r Alban.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa hefyd bod cyflwr gwlyb y tir yn debygol o wneud drwg yn waeth.

“Gan fod y tir yn llawn dop o ddwr wedi’r glaw trwm diweddar, dylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol hefyd o’r perygl o lifogydd lleol a thrafferthion wrth deithio.”

Mae Asiantaeth yr Amglchedd hefyd wedi cyhoeddi rhybydd melyn o berygl isel o lifogydd yn siroedd y de a’r gorllewin heddiw – ond bydd y rhybydd yn cynnwys yr oll o Gymru erbyn yfory.

Mae yna rybydd perygl o lifogydd beth bynnag yn Ninbych y Pysgod wrth i’r llanw uchel gyfrannu at lefel uchel yr afon yno ac mae yna rybyddion o lifogydd posibl wedi eu cyhoeddi ar gyfer afonydd de Sir Benfro a’r Teifi yn ardal Llanybydder.

Nid y flwyddyn wlypaf erioed!

Er gwaetha’r tywydd garw, nid 2012 fydd y flwyddyn wlypaf erioed yng Nghymru. Mae’n byr debyg mai 1,202mm o law fydd wedi syrthio erbyn dydd Calan, gan olygu mai eleni fydd y 13 blwyddyn gwlypaf ers i gofnodion gychwyn gael eu cadw yn 1910.

Y flwyddyn 2000 sydd ar frîg y rhestr gyda 1,337.3mm o law yn syrthio’r flwyddyn honno ar gyfartaledd.