Haf Morris yn derbyn Medal T H Parry-Williams Er Clod ym mhrifwyl 2009
Ddoe, ddydd Nadolig, fe fu farw Haf Morris, yn 79 mlwydd oed.
Er mai ym Môn y bu’n byw am ddegawdau, un o ferched Sir Drefaldwyn oedd hi, yn enedigol o Aberangell ac yn gerdd-dantwraig frwd ac angerddol.
Roedd hi’n aelod amlwg o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru, yn hyfforddwraig ac yn osodwraig, yn ogystal â bod yn feirniad cenedlaethol.
Fe dderbyniodd Fedal Syr T H Parry-Williams Er Clod yn yr Eisteddfod Gendelaethol dair blynedd yn ôl am ei gwaith gwirfoddol ym myd y Pethe Cymraeg.