Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George Bush wedi treulio’r Dolig mewn ysbyty yn Houston, a’i wraig, Barbara ac aelodau eraill o’r teulu wrth erchwyn ei wely.
Mae’r cyn-arlywydd 88 mlwydd oed – sy’n dad i’r cyn-Arlywydd arall George W Bush – wedi bod yn yr ysbyty ers Tachwedd 23, yn diodde’ o beswch a chyflwr tebyg i bronchitis ar ei frest.
Mae meddygon yn dweud, yn ofalus, eu bod yn “optimistaidd” y bydd George Bush yn gwella.
Dros y Dolig, fel rheol, fe fydd y teulu Bush yn crynhoi ym mwyty Asiaidd Gigi’s yn ardal Galleria yn ninas Houston.
Y gred ydi fod aelodau o’r teulu wedi archebu bwyd o’r bwyty hwnnw ar gyfer prif bryd ddoe, a’i gael wedi’i ddanfon i’r ysbyty.