Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff gwraig gael ei ddarganfod yn nhre’ Caerfyrddin ddoe.

Fe gafodd plismyn eu galw i dy ym Maes Yr Ysgol toc cyn 11 o’r gloch fore dydd Nadolig. Fe ddaethon nhw o hyd i wraig 37 mlwydd oed yn farw yno.

Mae dyn lleol 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un oedd ym Maes Yr Ysgol rhwng 5 o’r gloch ar noswyl Nadolig a bore dydd Nadolig, i gysylltu â nhw.

“Mae swyddogion arbennig yn cynnig cefnogaeth i’r teulu,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Mae’r gymuned hefyd yn parhau i gynorthwyo’r heddlu gyda’i hymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar y rhif 101.