Mae Cyngor Dinbych wedi cadarnhau bore ma y bydd na ymchwiliad annibynnol i achos y llifogydd ar stad o dai yn Rhuthun fis diwethaf.

Roedd adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd ddoe wedi dod i’r casgliad bod nifer o ffactorau wedi arwain at y llifogydd ar stad Glasdir, ond mai’r brif ffactor oedd bod y ceuffosydd yn llawn.

Mae’n debyg bod ceuffosydd heb gael eu clirio’n iawn a bod hynny wedi  effeithio’u gallu i symud y dŵr er mwyn gostwng lefelau’r llifogydd.

Ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore ma mae’r cyngor wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am y gwaith ond bod sawl factor arall hefyd yn gyfrifol am y llifogydd. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad annibynnol.

Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Aled Roberts, nad hefyd wedi galw am ymchwiliad annibynnol.

Roedd adroddiad  Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud nad oedd yr amddiffyniad llifogydd wedi methu mewn gwirionedd er ei fod wedi gorlifo.

Mae bai hefyd ar y ffaith fod tir oedd eisoes yn wlyb yn ogystal â lefel uchel yr Afon Clwyd a’r nentydd sy’n llifo iddo.

Cafodd dros 100 o dai newydd ar stad Glasdir eu heffeithio yn dilyn y llifogydd ar 27 Tachwedd.