Mae Scotland Yard wedi ehangu ei ymchwiliad i helynt “plebgate” wrth i’r tensiynau rhwng y Ceidwadwyr a’r heddlu gynyddu ynglŷn â’r driniaeth a gafodd Andrew Mitchell.

Mae tua 30 o swyddogion yn rhan o ymchwiliad yr Heddlu Metropolitan yn dilyn honiadau bod swyddog wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn Andrew Mitchell a arweiniodd at ei ymddiswyddiad.

Honnir bod Andrew Mitchell wedi defnyddio iaith amhriodol yn ystod ffrae gyda phlismyn ar ôl iddyn nhw wrthod caniatáu iddo fynd drwy brif gatiau Downing Street ar ei feic. Mae wedi gwadu iddo ddefnyddio’r gair “plebs” yn ystod y ffrae gyda’r plismyn.

Bu David Cameron yn mynegi ei bryder ddoe bod swyddog wedi ceisio “pardduo enw” Andrew Mitchell wrth i gwestiynau godi ynglŷn â dilysrwydd yr honiadau gwreiddiol am y ffrae yn Downing Street.