Mae’r BBC wedi ei gyhuddo o fod ag agwedd “ddi-hid” tuag at arian cyhoeddus ar ôl i’r gorfforaeth dalu £450,000 i’r cyfarwyddwr cyffredinol George Entwistle pan ymddiswyddodd ar ôl dim ond 54 diwrnod yn ei swydd.
Mewn adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fe rybuddiodd Aelodau Seneddol na ddylai pobl yn y sector cyhoeddus “gael eu gwobrwyo am fethiant.”
Roedd George Entwistle wedi gadael ei swydd yn dilyn yr helynt ynglŷn â Jimmy Savile, gan dderbyn dwywaith yr hun oedd yn ddyledus iddo.
Dywed y pwyllgor bod y swm a gafodd ei dalu iddo yn “ddefnydd annerbyniol o arian cyhoeddus.”
Roedd yr ASau hefyd yn feirniadol o daliadau “gormodol” i ddeg uwch reolwr arall, gan gynnwys y cyn brif swyddog Caroline Thomson a dderbyniodd £670,000 pan adawodd ei swydd eleni.
Beirniadaeth hallt
Dyma’r ail waith yr wythnos hon i’r BBC wynebu beirniadaeth hallt – ddoe cyhoeddwyd adroddiad damniol i’r BBC a rhaglen Newsnight ynglŷn â Jimmy Savile.
Roedd y penderfyniad i beidio darlledu adroddiad Newsnight am honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile yn “ddiffygiol” meddai adolygiad gafodd ei gynnal gan gyn-bennaeth Sky News, Nick Pollard.
Fe ymddiswyddodd Stephen Mitchell fel dirprwy-gyfarwyddwr BBC News a chafodd Peter Rippon ei ddisodli fel Golygydd rhaglen Newsnight.
Mae adroddiad Pollard yn rhoi darlun o sefydliad oedd yn llawn cystadleuaeth ac ymladd ymysg ei gilydd.
Dywedodd bod system rheoli’r BBC wedi methu’n llwyr wrth ymdrin â’r materion a gododd o beidio darlledu’r stori, a bod y “lefel o anhrefn a dryswch hyd yn oed yn waeth nag oedd yn amlwg ar y pryd”.
Adroddiad Ken MacQuarrie
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi’r un pryd ag adolygiad arall gan Ken MacQuarrie i eitem gan Newsnight oedd yn cysylltu ar gam yr Arglwydd McAlpine gydag achosion o gam-drin plant mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru.
Daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad mai methiant gan aelodau’r tîm i ddilyn canllawiau golygyddol y BBC oedd ar fai.