Lesley Griffiths
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i erlyn pobl sy’n ymosod ar staff ysbytai.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd: “Dylai staff y GIG allu fynd i’r gwaith heb ofni bod cleifion neu berthnasau’r cleifion yn dreisgar tuag atyn nhw, yn eu cam-drin neu’n aflonyddu arnynt.
“Mae trais yn rhoi gweithwyr ym maes gofal iechyd mewn perygl ond hefyd mae’n eu hatal rhag gwneud eu gwaith, sef gofalu am eraill.”
Yn 2008/9 dim ond wyth o bobl a gafodd eu herlyn am droseddau’n ymwneud ag ymosod ar staff y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol ond mae tua 8% o ddigwyddiadau treisgar neu ymosodol yn digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.
Llwyddian
Bellach, yn sgil ymdrech ar y cyd rhwng yr heddlu, y GIG a Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae’n fwy tebygol y caiff pobl eu herlyn.
Yn ystod y 30 mis diwethaf, bu 387 o erlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys:
– Dedfryd o garchar am 30 mis i glaf a wnaeth fygwth nyrs â chyllell mewn adran cleifion allanol.
– Dedfryd o garchar am 12 wythnos i glaf a fu’n dreisgar ar lafar ac yn hiliol tuag at staff mewn meddygfa.
– Dedfryd o garchar am 16 wythnos i glaf a fu’n dreisgar tuag at nyrs a’i tharo yn ei bol â’i ben-glin tra’r oedd yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys.
“Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth godi ymwybyddiaeth ac annog staff i gofnodi achosion o drais ac ymddygiad ymosodol fel bod modd dwyn achos yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol,” meddai Lesley Griffiths.
“Rydw i eisiau i’r rheini sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu ymosod ar staff y GIG heb unrhyw oblygiadau wybod y byddan nhw’n cael eu cosbi’n drwm o dan y gyfraith.”