Sarah Rochira
Mae bwrdd rheoli newydd wedi ei sefydlu er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru.
Bydd y Bwrdd Datblygu Cenedlaethol yn cael ei weithredu gan Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, ac yn cynnwys aelodau o bob sector iechyd a gofal cymdeithasol. Pwrpas y sefydliad yw ceisio newid diwylliant gweithleoedd gofal Cymru, a gwella safon y gofal y mae pobl hŷn yn ei dderbyn.
Mae sefydliad y bwrdd yn cyd-fynd a chyhoeddiad adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n ymchwilio i ofal i’r henoed. Testun yr adroddiad yw sut mae gweithwyr yn codi pryderon yn y gweithle. Bydd y bwrdd newydd yn ceisio rhoi casgliadau’r adroddiad mewn grym ledled Cymru.
‘Sicrhau newid yn niwylliant gweithleoedd Cymru’
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira: “Mae gen i rôl arbennig mewn sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn, a dyna pam fy mod i wedi comisiynu ymchwil helaeth i ddiwylliant gweithleoedd a mynegi pryderon.”
Dywedodd hefyd ei bod hi’n “falch bod y partneriaid sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r Bwrdd Datblygu Cenedlaethol. Drwy weithio ar y cyd byddwn yn datgan ac yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu a fydd yn sicrhau newid yn niwylliant gweithleoedd Cymru, gyda lles a diogelwch pobl hŷn yn rhan annatod o hynny.”