Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio osgoi cael eu holi am eu cynlluniau i brynu Maes Awyr Caerdydd drwy wneud y cyhoeddiad yn ystod toriad yn y Cynulliad.

Ni fydd Aelodau’r Cynulliad yn gallu holi gweinidogion Llafur am y cynlluniau tan y flwyddyn newydd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies bod cwestiwn brys ar y mater wedi cael ei wrthod heddiw.

“Mae’n frawychus bod Gweinidogion Llafur yn credu y gallan nhw ymrwymo i wario degau o filiynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr ar brynu maes awyr heb orfod bod yn atebol i neb.

“Rwy’n siomedig nad oedd cyfle i Weinidogion Llafur gael eu holi am gyhoeddiad mor fawr.”

“Beth sy’n gwneud iddyn nhw feddwl y gallan nhw redeg maes awyr pan tydyn nhw methu rheoli’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yr economi neu ein hysgolion?” ychwanega.

“Yn hytrach na cheisio  ehangu rôl y wladwriaeth, dylai Gweinidogion Llafur Cymru fwrw ymlaen â’u gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus a chreu amodau ar gyfer twf yr economi yng Nghymru.”