Mae adroddiad wedi dod i’r casgliad bod nifer o ffactorau wedi arwain at y llifogydd ar stad o dai yn Rhuthun fis diwethaf.

Mae’r adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud bod yr amddiffyniad llifogydd “heb fethu mewn gwirionedd” er ei fod wedi gorlifo.

Mae’n debyg bod y cwlferi oedd wedi cael eu gosod i fynd a’r dŵr wedi cael eu blocio a oedd yn effeithio’u gallu i gario digon o ddŵr er mwyn gostwng lefelau’r llifogydd.

Mae bai hefyd ar y ffaith fod tir oedd eisoes yn wlyb yn ogystal â lefel uchel yr Afon Clwyd a’r nentydd sy’n llifo iddo.

Cafodd dros 100 o dai ar stad Glasdir eu heffeithio yn dilyn y llifogydd ar 27 Tachwedd.

Ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio am ragor o lifogydd yn ne ddwyrain Cymru heno wrth i law trwm ddisgyn ar dir gwlyb.