Dylan Thomas
Mae cyfarwyddwr y ffilm eiconig o ddrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood, wedi datgan ei fod yn rhoi’r ffilm i Gymru.
Mae’r rhodd yn cynnwys hawliau i’r ffilm, y sgript ac arteffactau sy’n ymwneud â’r ffilm.
Dr Andrew Sinclair gyfarwyddodd y ffilm yn 1972 gyda Richard Burton, Elizabeth Taylor a Peter O’Toole ymhlith y cast. Cafodd ei ffilmio ar leoliad yn Abergwaun, Sir Benfro.
Mae’r ffilm yn portreadu bywydau trigolion pentref ffuglennol Llareggub. Mae’r ffilm yn seiliedig ar ddrama radio gan Dylan Thomas, gafodd ei eni yn Abertawe.
Fe wnaeth Dr Sinclair ei gyhoeddiad mewn dangosiad arbennig o’r ffilm i ddathlu 40 mlynedd ers gwneud y ffilm yng Nghaerdydd neithiwr.
Cafodd rhai o’r arteffactau yn ymwneud â chynhyrchu’r ffilm eu harddangos neithiwr hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys llythyrau a ysgrifennwyd gan Richard Burton ac Elizabeth Taylor, ffotograffau a sgriptiau gwreiddiol wedi’i lofnodi gan Victor Spinetti ac aelodau eraill o’r cast.
Byddant yn rhan o’r casgliad fydd yn cael ei gadw yn Llyfrgell Ffilm y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Dywedodd Dr Andrew Sinclair ei fod eisiau “cymodloni Dylan Thomas, nad oedd yn siarad Cymraeg, gydag athrylith y genedl gyfan.”
Dywedodd Dewi Vaughan Owen, Cadeirydd Bafta Cyrus: “Bydd y stori tu ôl i’r ffilm eiconig bellach yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.”