Cast Pen Talar
Mae cyfres ddrama gafodd ei darlledu ar S4C yn 2010 ar gael ar ffurf DVD o heddiw ymlaen ar ôl i wylwyr ddweud eu bod nhw am gael copïau ohoni.
Mae Pen Talar yn y siopau ac ar wefan Amazon a dywedodd cydawdur a chyd-gyfarwyddwr y gyfres, Ed Thomas, ei bod hi’n bwysig fod dramâu Cymraeg yn cael eu cyhoeddi a’u gwerthu.
“Mae cyhoeddi ffilmiau yn cynnal y diwydiant a’r diwylliant,” meddai.
Fis diwethaf galwodd yr actor Grey Evans am gyhoeddi mwy o glasuron S4C gan ddadlau fod “dramâu a chyfresi o sylwedd yn brinnach na dannedd dryw.”
Galwodd am “roi bywyd newydd i’r trysorau” yng ngofal S4C, ac mae Ed Thomas yn cefnogi’r alwad.
“Ti’n gobeithio fod y gwaith yn mynd i gael ei allforio achos na’r unig ffordd i brofi ein bod ni dal yma,” meddai.
Pen Talar: ysgogi dadl
Nid oedd cyhoeddi’r gyfres ar DVD yn broses hawdd meddai Ed Thomas, sy’n Gyfarwyddwr Creadigol y cwmni a gynhyrchodd Pen Talar, Fiction Factory.
“Mae lluniau llyfrgell yn y gyfres ac roedd rhaid clirio’r rheiny gyda darlledwyr fel y BBC a ITV.
“Ond ni’n falch iawn fod e’n cael ei ryddhau a bod ni’n gwneud hynny o achos bod gwylwyr wedi gofyn i ni wneud hynny ar ôl i ni gynnal arolwg yn yr Eisteddfod y llynedd.”
Mae Pen Talar yn cyfleu hanes Cymru dros y 50 mlynedd diwethaf.
“Stori cenedl yw hi trwy gyfrwng stori teulu,” meddai Ed Thomas.
“Ro’n ni eisiau ysgogi dadl yn hytrach na rhoi diffiniad o gyfnod fel y chwedegau. Mae’n syndod cyn lleied roedd rhai o’r cast yn gwybod am bethau fel Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio dros gael sianel.”