Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad cyngor Sir Caerfyrddin i beidio â thalu Cyflog Byw i weithwyr sydd ar gyflogau isel.
Yn ystod dadl yng nghyfarfod llawn y Cyngor bnawn ddoe, dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, ei bod hi’n “warthus” bod y cyngor yn talu cyflog mor isel i gannoedd o staff, a galwodd ar y Bwrdd Gweithredol i ailystyried.
Roedd y Blaid wedi gofyn i’r cyngor gefnogi cais i gyflwyno Cyflog Byw i staff mewnol yn ogystal â rhai sy’n cael eu cyflogi o dan gytundebau allanol.
Roedd y cais wedi dod gan undeb Unsain wnaeth gynnal protest tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddoe yn galw am godiad cyflog i chwarter o staff y cyngor.
Mae Cyflog Byw yn £7.45 yr awr o’i gymharu â lleiafswm cyflog sydd yn £6.19.