Ysbyty Brenin Edward VII
Fe fydd canlyniad archwiliad post mortem ar nyrs y credir ei bod wedi lladd ei hun ar ôl derbyn galwad ffôn ffug gan ddau gyflwynydd radio o Awstralia, yn cael ei ryddhau yn ystod y cwest i’w marwolaeth heddiw, meddai Scotland Yard.
Bydd canlyniad y post mortem i geisio darganfod sut y bu farw Jacintha Saldanha yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn Llys y Crwner Westminster bore ma.
Roedd Jacintha Saldanha yn nyrs yn Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain lle’r oedd Duges Caergrawnt yn cael triniaeth am salwch bore difrifol. Y gred yw bod y nyrs wedi lladd ei hun ar ôl ateb galwad ffôn ffug gan y ddau DJ oedd yn dynwared y Frenhines a’r Tywysog Siarl er mwyn cael gwybodaeth am gyflwr iechyd y Dduges.
Neithiwr, daeth i’r amlwg y bydd ymchwiliad swyddogol yn cael ei gynnal gan y corff sy’n goruchwylio darllediadau radio yn Awstralia i’r cwmni fu’n gyfrifol am ddarlledu’r alwad ffôn.