Mae adroddiad gan Bwyllgor Iechyd y Cynulliad yn dweud bod angen ail-edrych ar y gofal sy’n cael ei roi i bobl hŷn a bod angen llai o ddibyniaeth ar ofal preswyl.
Mae hefyd yn dweud bod angen gwneud rhagor i symud mwy o wasanaethau i’r oedrannus yn y gymuned, yn hytrach na dewis gofal preswyl fel dewis cyntaf.
Mae adroddiad y Pwyllgor, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn edrych ar wasanaethau sy’n gwella bywydau pobl hŷn, yn cynnal neu’n rhoi eu hannibyniaeth yn ôl iddyn nhw ac sy’n cyflymu eu hadferiad corfforol a meddyliol.
Mae’r adroddiad yn dweud bod yn rhaid cymryd pob cam posib i leihau’r straen sy’n cael ei wynebu gan bobl wrth wneud penderfyniadau anodd ynghylch eu gofal eu hunain neu ofal anwyliaid.
Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth am opsiynau gofal yn gliriach, ac adroddiadau arolygu ar gyfer cartrefi gofal ar gael yn eang ac yn hawdd i’w deall.