Mae ymgyrchwyr yn pryderu bod y Llywodraeth ar fin rhoi sêl bendith i gynlluniau dadleuol i dyllu am nwy siâl yn y DU.
Bu’n rhaid i gwmni nwy Cuadrilla roi’r gorau i’w gynlluniau i dyllu am nwy siâl yn Swydd Gaerhirfryn 18 mis yn ôl ar ôl i’r broses o ffracio achosi dau ddaeargryn bychan. Mae ffracio’n golygu chwistrellu tywod a hylif i’r creigiau dan ddaear i’w gwahanu a rhyddhau’r nwy.
Mae’r cwmni’n credu y gallai ddarparu chwarter cyflenwad nwy’r DU o’r safle yn Swydd Gaerhirfryn, gan olygu na fyddai’r wlad mor ddibynnol ar fewnforion o Qatar neu Rwsia.
Mae’r Trysorlys eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r diwydiant, gyda chynlluniau i roi gostyngiad treth am nwy siâl.
Ond mae amgylcheddwyr yn dadlau y gallai achosi problemau amgylcheddol gan gynnwys llygru cyflenwadau dwr.
Fe fydd y penderfyniad ynglŷn â chaniatáu i Cuadrilla barhau i ffracio yn Swydd Gaerhirfryn yn dylanwadu ar gwmnïau eraill sy’n awyddus i ddechrau archwilio am nwy siâl mewn safleoedd eraill yn y DU.
Mae grwp o wrthwynebwyr, Vale Says No, wedi bod yn ymgyrchu ym Mro Morgannwg yn erbyn cynlluniau i ganiatáu i gwmni dyllu am nwy siâl yn Llandŵ.