Ceri Lyn Jones
Mae cwest dynes o Wynedd a yrrodd i lwybr cerbyd arall ger Deiniolen wedi dyfarnu iddi farw o ganlyniad i ddamwain.
Bu farw Ceri Lyn Jones o Lanrug yn syth yn y ddamwain ar Ebrill 21, a chlywodd y cwest yng Nghaernarfon heddiw ei fod yn bosib fod galwad ar ei ffôn symudol wedi tynnu sylw’r ddynes 34 oed.
Roedd hi un a hanner gwaith dros y terfyn alcohol cyfreithiol ar gyfer gyrru.
Mae ei rhieni, Raymond a Val Jones, heddiw wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud ei bod hi’n “caru bywyd” ac “yn hoffi bod wrth galon y parti”. Roedd ganddi gylch eang o ffrindiau meddai ei thad Raymond Jones.
Roedd Ceri Lyn Jones newydd symud yn ôl i Wynedd ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd a bu’n gweithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Cafodd ei magu ar ystâd Nant y Glyn, Llanrug, a mynychodd Ysgol Gynradd Llanrug, Ysgol Brynrefail ac Ysgol Syr Hugh Owen.