Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 wedi dod â newyddion drwg ynglyn â’r Gymraeg wrth i’r niferoedd sy’n siarad yr iaith ddisgyn.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn o 576,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011. Mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi cwympo i 19%, yn ôl i’r hyn ydoedd yn 1991.

Mae’r ffigurau’n awgrymu fod y Gymraeg dan bwysau yn ei hen gadarnleoedd, a lleiafrif sy’n ei siarad hi bellach yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Disgynnodd y ganran o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin o 50.3% yn 2001 i 43.9% yn 2011. Mae’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn y sir wedi cwympo 6,000 mewn deng mlynedd.

“Cwymp canran siaradwyr Cymraeg yn shir gar yn torri calon,” oedd ymateb yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards ar ei gyfrif Twitter.

Yng Ngheredigion disgynnodd y ganran o 52% i 47%, cwymp o 3,000 o siaradwyr Cymraeg.

Disgynnodd y ganran hefyd yn Ynys Môn – o 60.1% i 57.2% – ac yng Ngwynedd – o 69% i 65.3%.

Bu twf o dros 4,000 yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd ers 2001, ond yn ninas Abertawe disgynnodd y nifer o siaradwyr Cymraeg gan 2,600.

Mudo

Cafodd 21% o boblogaeth Cymru eu geni yn Lloegr, seg 636,000 o bobol. Cafodd 73% o bobol Cymru eu geni yng Nghymru, o gymharu â 75% yn 2001.

Yn Lloegr cafodd 84% o’r boblogaeth eu geni yn Lloegr.

Am y tro cyntaf roedd Cyfrifiad 2011 yn cynnwys blwch er mwyn i bobol allu nodi eu bod nhw’n Gymry, ac roedd 59% o’r boblogaeth yng Nghymru yn cyfri eu hunain yn Gymry yn unig.

Roedd 7% yn Gymry ac yn Brydeinwyr, ac 17% yn cyfri eu hunain yn Brydeinwyr yn unig.

Yn Lloegr roedd 60% yn cyfri eu hunain yn Saeson yn unig ac 19% yn teimlo’n Brydeinwyr yn unig.

Ystadegau Allweddol Cymru

Mae canlyniadau’r cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau heddiw yn dangos gostyngiad yn y nifer o bobl sy’n dilyn ffydd grefyddol yng Nghymru.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod y boblogaeth wedi tyfu a bod y nifer o bobl yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain, sydd wedi’i geni y tu allan i’r DU wedi tyfu hefyd.

Dyma’r ystadegau allweddol i Gymru:

  • Mae 58% o boblogaeth y wlad wedi datgan eu bod nhw’n dilyn y ffydd Gristnogol. Mae hynny’n 14% yn llai na 2001. Dywedodd 32% nad oedden nhw’n dilyn yr un ffydd.
  • Mae poblogaeth Cymru hefyd wedi tyfu 5% ers 2001 i 3.1 miliwn. Ac mae bron i 1 mewn 5 o drigolion y wlad yn 65 oed neu’n hyn.
  • Mae canran uwch o bobl gyda phroblemau iechyd hir dymor neu anableddau yng Nghymru o’i gymharu ag unrhyw ranbarth yn Lloegr . Bron i chwarter poblogaeth y wlad (23%).
  • Mae 66%(2.0 miliwn) o drigolion Cymru wedi mynegi eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig yn 2011 – ond roedd 218,000 o’r rhain yn gweld eu hunain fel Prydeinwyr hefyd.
  • Roedd 5% (168,000) o bobl yng Nghymru wedi’u geni y tu allan i’r DU yn 2011, cynnydd o ddau bwynt canran ers 2001 (3%, 92,000).
  • Yn 2011, mae mwy o aelwydydd yng Nghymru (67%, 879,000) yn berchen ar eu cartref nag yn Lloegr (63%, 14.0 miliwn).
  • Mae nifer y ceir a faniau sydd ar gael i aelwydydd yng Nghymru wedi cynyddu 1.3-1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001 roedd 11 o geir ar gyfartaledd am bob 10 aelwyd tra yn 2011 roedd 12 o geir bob 10 o gartrefi.
  • Mae bron pob aelwyd yng Nghymru gyda gwres canolog yn 2011 (98%, 1.3 miliwn). Mae hyn yn gynnydd o chwe phwynt canran ers 2001 (92%, 1.1 miliwn).
  • Mae mwy o bobl (12%, 370,000) yng Nghymru yn rhoi gofal nag mewn unrhyw ranbarth Lloegr yn 2011. Roedd gan Gymru ganran uwch o bobl sy’n darparu gofal am 20 i 49 awr, a 50 awr neu fwy yn 2011, nag unrhyw ranbarth yn Lloegr, 2%(54,000) a 3% (104,000) yn y drefn honno.
  • Mae un o bob pedwar o’r boblogaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru sy’n 16 oed a throsodd (26%, 651,000) yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw gymwysterau cydnabyddedig yn 2011.