tren


Bydd protestiadau yng ngorsafoedd trenau Caerdydd ac Abertawe heddiw yn erbyn y cynnydd diweddaraf mewn pris tocynnau trên.

Mae tocynnau trên wedi cynyddu mwy na 26%, ar gyfartaledd, ers cychwyn y dirwasgiad ac mae Undebau’n dweud bod hynny bron i dair gwaith yn fwy na chyflogau.

Mae’r protestiadau, sy’n digwydd mewn hanner cant o orsafoedd ym Mhrydain heddiw, yn cael eu trefnu gan undeb y TUC sydd hefyd yn cyhoeddi ymchwil i gyd-fynd a’r protestiadau sy’n dangos bod teithwyr yn dioddef o “dlodi trafnidiaeth”.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady,: “Mae prisiau trên wedi cynyddu’n gynt na chyflogau a chwyddiant, hyd yn oed yn ystod y dirwasgiad.

“Mae’r cwmnïau trenau yn ymddangos fe petai nhw’n anwybyddu’r ffaith fod incwm a safonau byw wedi gostwng ac maen nhw wedi bwrw mlaen gyda’r codiad aruthrol yma.”

Bydd arweinwyr undebau yn ymuno â’r protestiadau sy’n cael eu cynnal mewn gorsafoedd gan gynnwys Euston, Paddington a King’s Cross yn Llundain, Caerlŷr, Nottingham, Manceinion, Newcastle, Bryste, Caerdydd, Abertawe, Caeredin, Glasgow a Chaerwysg.