Cheikh Modibo Diarra
Mae Prif Weinidog Mali wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo oriau yn unig ar ôl iddo gael ei arestio yn ei gartref gan filwyr sydd wedi cipio’r wlad.

Dywedodd Cheikh Modibo Diarra yn ei anerchiad ar y sianel deledu wladol: “Mae dynion a merched yn poeni am ddyfodol ein cenedl, rydych chi’n gobeithio am heddwch.

“Dyna pam fy mod i, Cheikh Modibo Diarra, yn ymddiswyddo ynghyd â fy llywodraeth.”

Cadarnhaodd swyddogion fod milwyr sy’n ffyddlon i Gapten Haya Amadou Sanogo,wnaeth arwain chwyldro yn y wlad ym mis Mawrth, wedi arestio Cheikh Modibo Diarra yn ei gartref yn Bamako neithiwr.

Roedd Diarra yn bwriadu gadael y wlad i deithio i Baris pan gafodd ei ddal.

Ers rhai wythnosau mae tensiwn wedi bod yn codi rhwng y milwyr fu’n arwain y chwyldro yn Mali a Cheikh Modibo Diarra, yr arweinydd gafon nhw eu gorfodi i benodi pan drosglwyddwyd pŵer yn ôl i lywodraeth drosiannol sifil.

Y penwythnos diwethaf, trefnodd brotest oedd yn galw am ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig a chefnogaeth filwrol i ad-ennill gogledd Mali  a syrthiodd i ddwylo eithafwyr Islamaidd yn yr anhrefn yn dilyn y chwyldro.