Mae HSBC wedi cytuno i dalu iawndal o £1.2 biliwn i’r awdurdodau yn yr UDA yn dilyn cyhuddiadau ei fod wedi caniatáu i ddelwyr cyffuriau a therfysgwyr i symud biliynau o bunnoedd drwy’r system gyllidol yn America.

Cafodd y banc ei gyhuddo o anwybyddu rhybuddion ac o dorri rheolau ynglŷn â chaniatáu i arian o Fecsico, Iran a Syria, symud drwy’r banc.

Daeth y banc i gytundeb gyda nifer o awdurdodau yn yr UDA ac mae disgwyl i HSBC gwblhau cytundeb gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn fuan.

Dywedodd prif weithredwr grŵp HSBC Stuart Gulliver, bod y banc yn derbyn cyfrifoldeb am y camgymeriadau yn y gorffennol.