Mae Hufenfa De Arfon wedi ennill cytundeb gwerth £50 miliwn a fydd yn diogelu 110 o swyddi.
Bydd y cwmni cydweithredol yn dechrau cyflewni Adams Food Cyf o fis Ionawr ymlaen.
O ganlyniad, mae Hufenfa De Arfon wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu cyfleusterau gwneud caws newydd ar eu safle yn Chwilog cyn 2016 fydd yn dyblu eu cynhyrchiad.
Mae disgwyl i’r datblygiad newydd gostio £10 miliwn.
Mae’r newydd yn dilyn datganiad gan yr hufenfa yn gynharach eleni y byddai’r busnes llefrith yn dod i ben er mwyn canolbwyntio ar gynhyrchu caws a chynnyrch llaeth eraill.
Bydd cyflenwad llefrith lleol yn cael ei drosglwyddo i Cotteswold Dairy fydd yn parhau i gyflenwi llefrith Cymraeg dan frand “Llaeth y Ddraig” Hufenfa De Arfon.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: “Mae’r wythnos hon yn garreg filltir hanesyddol i’r busnes gyda phrosesu llefrith i’r farchnad leol yn dod i ben.
“Er mai rhan fach o’n busnes oedd hyn, doedd o ddim yn benderfyniad hawdd oherwydd bod gennym ni gyfrifoldeb i’r gymuned leol.”
Wrth siarad am y cytundeb newydd, dywedodd Alan Wyn Jones: “Rydyn ni ar ben ein digon ein bod ni wedi sicrhau’r cytundeb hir dymor i gyflenwi caws i Adams Food Cyf.
“Mae ein busnes caws yn parhau i fynd o nerth i nerth… dim ond yr wythnos hon fe enillon ni fedal aur yng Ngwobrau Caws y Byd gyda’n Cheddar aeddfed, a chaws Dragon yw brand caws mwyaf poblogaidd Cymru, yn werth dros £3 miliwn o ran gwerthiant.”
AC yn croesawu’r newyddion
Mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd a Chadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Dafydd Elis-Thomas, wedi croesawu’r cytundeb newydd rhwng Hufenfa De Arfon ac Adams Food Cyf.
“Mae’r cyfle newydd cyffrous yma ar gyfer buddsoddi yn y ffatri yn Rhydygwystl ger Chwilog, Pwllheli, yn deyrnged i foderneiddio ac arloesi cynnyrch sydd wedi dod a Hufenfa De Caernarfon i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf.”