Mae dwy ddynes a phlentyn wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl i drên daro yn erbyn car ar groesfan rheilffordd.

Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain bod y ddamwain wedi digwydd tua 12.35yh prynhawn ma yn Finningley, i’r de o Doncaster yn Swydd Efrog.

Dywedodd llefarydd bod y tri gafodd eu hanafu wedi bod yn y car ac na chafodd unrhyw un ar y trên eu hanafu.

Mae’r plentyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Mae’r trên, oedd yn teithio rhwng Lincoln a Doncaster, wedi cael rhywfaint o ddifrod ond wedi aros ar y cledrau, meddai’r llefarydd.

Cafodd y teithwyr eu symud o’r trên tra bod yr heddlu’n ymchwilio i sut y digwyddodd y ddamwain.