Mae corwynt yn Ynysoedd y Philipinau wedi lladd o leiaf saith o bobl ac wedi gorfodi mwy na 50,000 i adael eu cartrefi.
Roedd Teiffŵn Bopha wedi taro ardal Davao yn oriau man y bore, gyda gwyntoedd cryfion hyd at 100mya. Yn ei sgil, cafwyd llifogydd a thirlithriadau a choed yn cwympo.
Yn nhalaith Dyffryn Compostela, roedd y gwynt a’r glaw wedi achosi i wal o fwd a cherrig i gwympo ar ben tŷ gan ladd tri o blant.
Bu farw milwr ac mae 20 o bobl ar goll ar ôl llifogydd yn nhref Andap.
Mae disgwyl i nifer y rhai sydd wedi marw gynyddu unwaith i filwyr a’r heddlu allu cael mynediad i bentrefi sydd wedi cael eu hynysu gan y llifogydd.
Dyma’r corwynt mwyaf grymus i daro’r ynysoedd ers rhai blynyddoedd.
Roedd yr Arlywydd Benigno Aquino III wedi apelio ar bobl i ddiogelu eu hunain rhag y storm ac i helpu eraill wrth iddo amlinellu cynlluniau’r gwasanaethau brys i ymateb i’r corwynt.