Kirsty Williams
Mae nifer cynyddol o gleifion yn dioddef neu’n marw oherwydd camgymeriadau meddygol, yn ol ffigyrau diweddar.

Dyna’r neges  gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion – y corff sy’n gyfrifol am gasglu gwybodaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch digwyddiadau sy’n ymwneud a chleifion yn eu gofal – sy’n dangos bod y niferoedd sy’n dioddef “gradd ddifrifol o niwed” neu’n marw wedi codi rhwng Ebrill a Medi 2011, a rhwng Hydref 2011 a Mawrth 2012.

Mae Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi galw am ymchwiliad gan ddweud ei bod hi “mewn sioc” o glywed am y niferoedd sy’n marw ac yn dioddef yn ddiangen yng ngofal GIG Cymru a’i bod hi’n “bryderus iawn nad yw’r Gweinidog Iechyd yn gwneud llawer am y peth”.

“Nid dyma’r tro cynta i ni godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru,” meddai Kirsty Williams, “ond does dim digon yn cael ei wneud o hyd. Mae’n cael ei dderbyn y bydd rhai cleifion yn marw mewn ysbytai, ond mae’n annerbyniol bod cleifion yn marw oherwydd camgymeriadau ysbytai.

“Mae diogelwch a lles cleifion yn hollbwysig, a dyna pam yr wy’n galw ar y Gweinidog Iechyd i ymchwilio i’r rheswm pam bod nifer y bobl sy’n dioddef o ddamweiniau a ‘digwyddiadau’ yn y GIG wedi cynyddu ers y cyfnod adrodd yn y chwe mis diwethaf.”