Yr Albion yng Nghonwy
Mae un o’r bobol sy’n rhedeg tafarn sydd ar restr bariau gorau’r byd wedi dweud mai “cwrw da, lleol” yw’r gyfrinach i lwyddiant y dafarn.
Mae tafarn yr Albion yng Nghonwy yn cael ei rhedeg ar y cyd gan bedwar bragdy lleol, ac mae papur newydd y Guardian wedi ei rhoi hi yn rhestr bariau gorau’r byd, ddyddiau ar ôl i bapur y Daily Telegraph gyhoeddi darn yn canmol y lle.
“Mae gynnon ni ddewis da o gwrw lleol,” meddai Dewi Arfon o Fragdy’r Nant, sy’n rhedeg yr Albion ar y cyd gyda bragdai Conwy, Mŵs Piws, a’r Gogarth.
“Does dim cerddoriaeth, dim prydau bwyd, ac mae’r teledu’n dod allan yn unig pan mae Cymru’n chwarae rygbi.
“Ond mae pobol yn dod yma o bob man,” meddai Dewi Arfon.
“Mae gan y pedwar bragdy pum cwrw yn y dafarn ar y tro, felly dyna i chi ugain cwrw gwahanol. Ar ben hynny mae ganddon ni seidr go iawn a chwrw golau Almaenig.”
Mae’r dewis o gwrw, ynghyd â’r lleoliad yn nhref Conwy, yn cyfrannu at lwyddiant y dafarn medd Dewi Arfon.
“Mae angen poblogaeth er mwyn rhedeg tafarn gwrw, ac mae Conwy yn dref ddelfrydol.
“Does dim siopau cadwyn felly mae cymeriad i’r dre, ac mae pobol yn medru teithio yno ar fysys a threnau.”
Fis nesa fe fydd y dafarn yn dathlu ei blwyddyn gyntaf yn nwylo’r pedwar bragdy lleol.