Mae Starbucks, Google ac Amazon wedi eu beirniadu’n hallt mewn adroddiad damniol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw am geisio lleihau eu biliau treth yn y DU.
Yn ôl y pwyllgor roedd y cwmnïau wedi rhoi tystiolaeth “anargyhoeddiadol” ynglŷn â pham roedd eu taliadau treth gorfforaethol mor isel.
Roedd Starbucks wedi ildio i bwysau oriau’n unig cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi gan ddweud y byddai’n adolygu ei drefniadau treth yn y DU.
Roedd y cwmni wedi dweud wrth Aelodau seneddol ei fod wedi gwneud colled dros y 14 o’r 15 mlynedd ers iddo fod yn y DU, gan wneud elw bychan iawn yn 2006.
Yn ei adroddiad, dywedodd y pwyllgor bod yr honiad yn “anodd ei gredu” ac yn “anghyson” gyda honiadau’r cwmni am ei lwyddiant i gyfranddalwyr.
Mae nifer o gwsmeriaid wedi boicotio Starbucks mewn protest yn erbyn ei daliadau treth isel ac mae’r cwmni wedi dweud y bydd yn rhyddhau rhagor o fanylion am ei gynlluniau treth yn y DU’r wythnos hon.
Mae ASau wedi rhybuddio bod nifer o gwmnïau mawr rhyngwladol yn ecsploetio’r cyfreithiau treth yn y DU ac wedi galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael a’r broblem.
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn targedu cwmnïau mawr sy’n osgoi talu trethi, er mwyn trio adennill £10 biliwn i’r Trysorlys.