Mae dros fil o gartrefi yng Nghwm Clydach a Blaenclydach yn y Rhondda o hyd heb ddwr wedi i bibell fawr ddeunaw modfedd gael ei difrodi ar ôl y glaw trwm achosodd i dir symud ger Pontypridd.

Mae gweithwyr Dŵr Cymru wrthi ers nos Wener yn ceisio trwsio’r bibell ac fe gafodd llawer o drigolion eu cyflenwad yn ôl ddoe.

Ar un adeg roedd 7,000 o drigolion y Rhondda heb ddwr a bu’n rhaid cau unarddeg o ysgolion.

Mae Dŵr Cymru yn gofyn i gwsmeriaid bregus, neu deuluoedd gyda phlant ifanc ffonio 0800 052 0130 os ydyn nhw’n cael trafferthion oherwydd y diffyg cyflenwad.