Archesgob Cymru Barry Morgan
Fe fydd yr Eglwys yng Nghymru’n cyflwyno mesur newydd o blaid yr egwyddor o gael esgobion benywaidd.
Fyddai hwnnw ddim yn mynd i fanylion ynglŷn â sut i ddelio gydag offeiriaid a phlwyfolion sy’n anhapus am drefn newydd.
Fe ddywedodd Archesgob Cymru, Barry Morgan, wrth y BBC mai’r nod oedd cael cefnogaeth i’r egwyddor cyn symud ymlaen at bethau felly.
Ail fesur
Roedd yn ymateb i bleidlais Eglwys Lloegr y mis yma yn erbyn esgobion benywaidd, pan gafodd y syniad ei atal gan leiafrif o leygwyr.
Gan fod Cymru wedi methu gyda chynnig tebyg bedair blynedd yn ôl, fe ddywedodd Barry Morgan ei bod yn bryd rhoi cynnig arall.
Fe ddywedodd y byddai ail fesur yn cael ei gyflwyno gyda’r manylion am ddarpariaeth i ymwrthodwyr.