Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg yn dweud nad yw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto ynglŷn â dyfodol awdurdodau addysg.

Ond mae wedi ailadrodd ei rybudd bod rhaid iddyn nhw wneud llawer mwy i wella’u gofal am ysgolion ac yn mynnu bod angen diwygio, gyda threfn newydd neu gydweithio.

“Mae gormod o awdurdodau addysg,” meddai ar raglen wleidyddiaeth BBC Wales. “Dydy ymdrechion yr awdurdodau lleol ym maes addysg ar hyn o bryd ddim yn ddigon da.”

Er bod rhai awdurdodau addysg wedi dechrau “mynd i’r afael” â’r problemau, roedd rhai yn rhy fach, meddai wedyn, ond fe wadodd ei fod eisiau cymryd y grym i gyd i ddwylo Llywodraeth Cymru.

Mae wedi sefydlu arolwg o’r maes, sydd wedi cael croeso gofalus gan undebau athrawon ond wedi cael ei wrthod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Meddai Leighton

“Dw i’n credu bod arnon ni angen rhywbeth rhwng y Llywodraeth ac ysgolion. Fe allai fod yn awdurdodau addysg, neu fe allai fod yn gonsortia rhanbarthol, neu fe allai fod yn fyrddau ysgol rhanbarthol.

“Dydw i ddim wedi penderfynu cynnwys dim, a dydw i ddim wedi penderfynu gwrthod dim.”