Mae cwmni bancio UBS wedi cael dirwy o £29.7 miliwn gan yr Awdurdodau Gwasanaethau Ariannol (FSA) am fethiannau a arweiniodd at golledion o £1.4 biliwn o ganlyniad i dwyll y masnachwr Kweku Adoboli.

Cafodd Kweku Adoboli ei garcharu am saith mlynedd ar ôl ei gael yn euog o dwyll wythnos ddiwethaf.

Mae’r methiannau yn datgelu problemau difrifol yng ngweithgareddau’r cwmni o’r Swistir, a’u system rheoli a rheolaethau mewnol.