Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn digwyddiad ar drên yn dilyn y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon nos Sadwrn.
Mae’r heddlu yn dweud fod dynes wedi dioddef anafiadau difrifol i’w wyneb yn ystod y digwyddiad.
Mae’r dyn yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa ac mae’r Heddlu yn apelio am dystion i’r digwyddiad ar y trên 19.43 o Gaerdydd oedd yn teithio i Abertawe.
Aethpwyd â’r ddynes i’r ysbyty ar ôl i’r trên gyrraedd gorsaf Abertawe.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0800 40 50 40 neu drwy gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.