Mae bom wedi ffrwydro y tu mewn i eglwys yng ngogledd Nigeria.

Roed yr eglwys wedi ei lleoli oddi fewn i farics milwrol yn Jaji yn rhanbarth Kaduna.

Mae nifer o eglwysi wedi cael eu targedu yn y rhanbarth gan grŵp o derfysgwyr Islamaidd o’r enw Boko Haram.

Cafodd o leiaf 50 o bobl eu lladd yn Kaduna ym mis Mehefin a bu farw saith o bobl mewn ffrwydrad mewn Eglwys Babyddol bron i fis yn ôl.

Mae mwyafrif o drigolion De Nigeria yn Gristnogion, tra bod y mwyafrif o’r rhai sy’n byw yng ngogledd y wlad yn Fwslemiaid.