Yr orymdaith yn Dera Ishmail Khan. Llun: The Lahore Times
Mae pump o bobl wedi cael eu lladd a dwsinau wedi cael eu hanafu wrth i fom ffrwydro yng ngogledd-orllewin Pakistan.
Roedd y bom wedi ffrwydro ger gorymdaith oedd yn cynnwys dilynwyr y grefydd Foslemaidd Shia.
Dyma’r ail fom i ffrwydro yn y ddinas Dera Ismail Khan oddi fewn dau ddiwrnod. Bu farw saith o bobol ddoe, gan gynnwys saith o blant, pan ffrwydrodd fom ger gorymdaith arall.
Mae’r Taliban wedi cyhoeddi mai nhw oedd yn gyfrifol am y ddau fom.
Roedd y bom heddiw wedi cael ei osod mewn siop feiciau ac fe ffrwydrodd wrth i’r orymdaith basio heibio.
Roedd y gorymdeithiau yn rhan o ddathliadau i nodi Ahoura, uchafbwynt y mis sanctaidd, Muharram. Mae’r Shiaid yn cofio am farwolaeth ŵyr y Proffwyd Mohammed, Imam Hussein, a gafodd ei ladd yn y seithfed ganrif.