Andy Robinson
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi’r Alban wedi ymddiswyddo.

Mae Undeb Rygbi’r Alban wedi cadarnhau fod Andy Robinson wedi gadael ei swydd, yn dilyn y gêm drychinebus i dîm yr Alban ddoe pan gollon nhw o 21-15 i Tonga yn Aberdeen.

Mae’r Alban wedi colli 10 o’u 13 gêm ddiwethaf, a nhw hefyd a gafodd y llwy bren ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dywedodd Andy Robinson ei fod wedi bod yn anrhydedd i fod yn brif hyfforddwr yr Alban a diolchodd i’r cefnogwyr, y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

“Dwi’n siomedig iawn o edrych ar ein canlyniadau diweddar ond dwi’n credu y bydd y gall y chwaraewyr ddatblygu i fod yn dîm sy’n ennill,” meddai.

Mae’r chwilio am olynydd Robinson wedi dechrau. Ymysg y rhai a all fod yn y pair ydi Scott Johnson, hyfforddwr cynorthwyol presennol yr Alban, a Nick Mallett a fu’n hyfforddi De Affrica a’r Eidal.