Cymru 10–33 Seland Newydd


Cafwyd perfformiad gwell gan Gymru yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn ond buddugoliaeth gyfforddus i Seland Newydd oedd hi serch hynny.

Go brin y gallai Cymru fod wedi perfformio’n waeth nag y gwnaethant yn erbyn yr Ariannin a Samoa, ac er i’r Cochion ddangos ychydig mwy o galon yn erbyn y Crysau Duon, fe ddangosodd yr ymwelwyr pam mai nhw yw pencampwyr y byd gan ennill yn rhwydd.

Hanner Cyntaf

Chafodd Cymru fawr o gymorth gan y dyfarnwr, Craig Joubert, yn yr hanner cyntaf wrth i sawl penderfyniad fynd yn erbyn y tîm cartref.

Ni chafodd Andrew Hore ei gosbi am daro Bradley Davies yn anymwybodol  wedi dim ond munud o’r gêm a daeth trydedd cic gosb lwyddiannus Aaron Cruden o ganlyniad i benderfyniad gwael yn ardal y dacl.

Naw i ddim oedd hi gyda chwarter awr i fynd tan yr egwyl felly ond croesodd y Crysau Duon ddwywaith tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf i sefydlu mantais gyfforddus wedi deugain munud.

Gorffennodd Liam Messam symudiad da i sgorio’r cyntaf, cais a gafodd ei ganiatáu er gwaethaf pas ymlaen. A daeth yr ail funud cyn yr egwyl wrth i’r prop profiadol, Tony Woodcock, darannu drosodd yn rhy rhwydd o lawer o lein ar y llinell bum medr.

Trosodd Cruden y ddau gais i roi tri phwynt ar hugain o fantais i’r ymwelwyr. Gallai’r fantais honno fod wedi bod yn llai serch hynny gan i Gymru wrthod tri chyfle i anelu at y pyst yn yr hanner cyntaf gan ffafrio yn hytrach anelu (yn aflwyddiannus gan amlaf) at y gornel.

Ail Hanner

Ychwanegodd Cruden dri phwynt arall at y fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i’r clo, Luke Romano, groesi am drydydd cais pencampwyr y byd. Bylchodd yr agellwr, Julian Savea, ac roedd Romano wrth law i guro Alex Cuthbert a thirio yn y gornel.

Trosodd Cruden eto i roi Seland Newydd ar y blaen o 33 pwynt gyda hanner awr o’r gêm ar ôl.

Ond Cymru oedd tîm gorau’r chwarter olaf a chawsant eu gwobrwyo gyda dau gais, y cyntaf ohonynt yn un i’w gofio!

Penderfynodd Cymru fynd am lein tri dyn ar ddeg ar y llinell bum medr ac ar ôl sicrhau meddiant glan doedd dim ond un canlyniad tebygol – pymtheg dyn mewn coch yn gwthio dros y gwyngalch a Scott Williams yn tirio.

Ychwanegodd Cuthbert ymdrech hwyr yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan Gymru ond er gwaethaf y diweddglo cyffrous does dim dwywaith mai’r tîm gorau ennillodd y gêm.

Barn y Capten – Sam Warburton

“Roedden ni eisiau ymateb yn yr ail hanner ac fe gawsom ni un. Yn amlwg, roedd yna agendor rhwng y timau yn yr hanner cyntaf ac os ydych chi’n colli’r bêl yn erbyn Seland Newydd maen nhw’n mynd i fanteisio, er clod iddynt.”

.

Cymru

Ceisiau: Scott Williams 57’, Alex Cuthbert 77’

Seland Newydd

Ceisiau: Liam Messam 27’, Tony Woodcock 39’, Luke Romano 48’

Trosiadau: Aaron Cruden 28’, 40’, 50’

Ciciau Cosb: Aaron Cruden 10’, 19’, 24’, 43’

Cerdyn Melyn: Cory Jane 60’