Coeden wedi cwympo yn Llanbed
Mae’r tywydd garw wedi creu llifogydd, cwympo coed a pheri trafferthion i deithwyr ar draws Cymru.

Mae ffordd ddeuol yr A55 rhwng Bangor a Thal-y-Bont wedi cael ei chau i’r ddau gyfeiriad o achos llifogydd, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori pobol i beidio teithio o achos y tywydd, oni bai ei bod hi’n “hollol angenrheidiol.”

Mae 500 o gartrefi heb gyflenwad trydan oherwydd bod ceblau wedi cwympo yn y gwyntoedd cryfion ond dywed Western Power eu bod nhw’n ceisio adfer y cyflenwad cyn gynted â phosib.

Bu’n rhaid i dri o blant o Ysgol gynradd Dolbadarn yn Llanberis gael eu hachub gan ddiffoddwyr tan mewn cwch ar ôl i lefel y dŵr godi a’u hatal rhag gadael yr adeilad.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tan eu bod wedi derbyn mwy na 250 o alwadau ac maen  nhw’n apelio ar bobl i’w ffonio “dim ond os ydyn nhw’n credu bod bywydau mewn perygl”.

Mae ffyrdd yn ne Gwynedd i’r dwyrain tuag at Ddyffryn Conwy wedi’u heffeithio ac mae trenau rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi hefyd wedi eu canslo.

Mae’r hen bont Hafren wedi ei chau ar ôl i lori droi drosodd ac mae traffig yn cael ei gyfeirio dros y bont newydd.

Yng Ngheredigion mae sawl coeden wedi disgyn yn ardal Llanbed ac Aberaeron, ac mae’r A4075 ym Mhenfro wedi ei chau am fod coeden wedi disgyn.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer yr afon Teifi, afon Erch yn Abererch ym Mhenrhyn Llŷn, ac afonydd Tâf a Chynin yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhybuddion llifogydd hefyd ar gyfer ardaloedd de Penfro, Ynys Môn, a gogledd Gwynedd.

Mae agoriad Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd wedi cael ei ohirio heno o achos y tywydd, a bydd Only Boys Aloud a No Fit State Circus bellach yn agor yr ŵyl nos yfory (nos Wener).