Mae rhybudd am dywydd garw iawn wedi’i roi ar gyfer ardaloedd Bro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd.

Gyda gwyntoedd cryfion ar draws Cymru, fe allen nhw gyrraedd cymaint â 70 milltir yr awr mewn rhai rhannau o’r De a’r Gorllewin.

Ond, er bod disgwyl rhywfaint o effaith ar drafnidiaeth, ar hyn o bryd, does dim rhybuddion llifogydd ar gyfer yr un o afonydd Cymru.

Mae’r tywydd wedi achosi difrod unwaith eto yn ne-orllewin Lloegr gyda difrod i dai a cheir ac mae 50 o rybuddion llifogydd yno.