Mae dyn a dynes o ardal Cwmbrân wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth babi mis oed.

Mae’r ddau, dyn 43 oed a dynes 24 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Heol Waun Hywel, Pontnewydd  tua 10.35yh nos Sadwrn, 17 Tachwedd gan y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn pryderon am iechyd y babi, Amelia Jones.

Cafodd Amelia ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ac yna i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw’r ferch fach ddydd Llun.

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn trin ei marwolaeth fel un amheus. Dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.