Rowan Williams
Mae Archesgob Caergaint wedi dweud bod gan Eglwys Loegr “llawer o egluro” i’w wneud yn dilyn methiant y bleidlais i gael esgobion benywaidd.

Dywedodd Dr Rowan Williams bod yr Eglwys “yn ddiamau” wedi colli “rhywfaint o hygrededd” o fewn cymdeithas ar ôl i’r Synod Cyffredinol wrthod y ddeddfwriaeth.

Ychwanegodd na fyddai’r penderfyniad ddoe yn ddealladwy i’r rhan fwyaf o bobl a’i fod yn ymddangos bod yr Eglwys yn “ddall” i rai o’r tueddiadau a blaenoriaethau mewn cymdeithas.

Roedd y syniad o esgobion benywaidd wedi ei gefnogi gan 42 allan o 44 o esgobaethau Lloegr ac, yn y bleidlais ddoe, roedd yr esgobion eu hunain a’r offeiriadaeth o blaid.

Y rhwystr oedd yr aelodau lleyg – roedd angen cael cefnogaeth dau draean ohonyn nhw hefyd ond fe fethodd hynny o lond llaw o bleidleisiau.

Roedd  yr Archesgob yn annerch y Synod am y tro ola’ yn ei swydd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog David Cameron ei fod yntau hefyd yn siomedig gyda’r canlyniad ond mae wedi pwysleisio ei fod yn fater i’r Eglwys yn hytrach na’r Llywodraeth neu’r Senedd.