George North
Mae’r asgellwr George North wedi derbyn bod tîm rygbi Cymru yn gwegian ar ôl perfformiadau gwael  yn erbyn yr Ariannin a Samoa.

Maen nhw wedi colli pum gêm o’r bron ac mae nifer o chwaraewyr allweddol wedi eu hanafu.

“Mae wythnos fawr o’n blaenau ni,” meddai George North. “Mae wedi bod yn ddechrau gwael i ni ond dwi’n gobeithio y gallwn ni wneud yn well yn erbyn y Crysau Duon.”

Dywedodd nad oedd sgiliau sylfaenol tîm Cymru yn ddigon da yn y gêm yn erbyn Samoa.

“Mae’n ergyd i ni ond bore Llun mi wnawn ni edrych ar ein hunain a mynd ati i weithio’n galed,” meddai.

Mae prif hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, hefyd wedi mynegi siom am berfformiad Cymru. “Doedd e ddim o safon ryngwladol,” meddai.

Bydd Warren Gatland yn ôl fel prif hyfforddwr ar gyfer  y gêm yn erbyn y Crysau Duon penwythnos nesa.