Mae David Cameron wedi galw ar Israel i “wneud popeth posibl” i ddod â’r argyfwng yn Gaza i ben.

Mewn sgwrs ffôn gyda Phrif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu fe fynegodd ei gydymdeimlad ynglŷn â’r ymosodiadau roced “annerbyniol” ar Israel.

Ond mae Benjamin Netanyahu wedi dweud heddiw fod Israel yn barod i “ehangu’n sylweddol” ei ymgyrch yn erbyn ymladdwyr yn Gaza.

Mae swyddogion yn Gaza yn dweud fod 52 o Balestiniaid wedi cael eu lladd ers dydd Mercher diwethaf pan ddechreuodd yr ymosodiadau gan Israel gyda phennaeth milwrol Hamas, Ahmed Jabari, yn cael ei ladd gan ymosodiad o’r awyr.

Mae adroddiadau fod chwech o newyddiadurwyr o Balesteina wedi cael eu hanafu bore heddiw mewn ymosodiad arall ar ddinas Gaza.

Roedd Arlywydd yr Aifft, Mohammed Mursi, wedi dweud y byddai cadoediad yn bosib ond all hynny ddim cael ei warantu, meddai.

Mae Israel wedi sicrhau fod 75,000 o filwyr wrth gefn ar gael petai nhw’n penderfynu ymosod ar Gaza ar lawr gwlad.

Dywedodd Mohammed Mursi y byddai ymosodiad o’ r math yma yn cael effaith difrifol ar yr ardal.