Am y tro cyntaf erioed yn ei hanes  bydd Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru i’w gweld yn fyw ar y we eleni.

Mae Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2012 yn cael ei chynnal yn Neuadd Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun ddydd Sadwrn, 17 Tachwedd – a bydd y cystadlu o’r llwyfan yn fyw ar wefan S4C – s4c.co.uk – o 10.30yb tan 8.30yh.

Mae’r gwasanaeth ar y we yn cyd-fynd â’r  rhaglen fyw gyda’r nos, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc: Digwyddiadau ’12 sy’n dechrau am 8.30pm.

Bydd yn cynnwys cystadlaethau llwyfan fel sgetsus, unawdau canu a phartïon llefaru a seremonïau’r prif wobrau llenyddol.

Fe fydd y darlledwr Terwyn Davies yn rhoi sylwebaeth y tu ôl i feic, gan ddarparu manylion cefndir am y cystadlaethau yn ystod y gweddarllediad byw.

Dywedodd Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, “Mae’r we’n llwyfan perffaith ar gyfer yr ŵyl gan fod llawer iawn o bobl ifanc ledled Cymru â diddordeb yn y digwyddiad blynyddol hwn.  Fe fydd pobl na all ddod i Abergwaun fwynhau’r cyfan o’u cartrefi neu eu ffermydd ar eu cyfrifiaduron.”