Mae Heddlu’r Gogledd wedi cael amser ychwanegol i holi dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn y Bala dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i gorff y dyn 42 oed, oedd yn dod o Ddwyrain Ewrop, mewn fflat yn Heol y Plase yn y Bala ddydd Sadwrn tua 5.40yh.

Cafodd dyn yn ei ugeiniau, sydd hefyd o Ddwyrain Ewrop, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ddiweddarach nos Sadwrn mewn cyfeiriad cyfagos yn y Bala.

Yn ystod oriau man bore ma cafodd pedwar o bobl eraill, tri sy’n lleol i’r Bala ac un arall o Ddwyrain Ewrop, eu harestio mewn cysylltiad â rhoi cymorth i droseddwr ac maen nhw’n cael eu holi gan yr heddlu yn y Bala.

Dywed yr heddlu eu bod nhw bellach wedi adnabod corff y dyn yn ffurfiol ond na fyddan nhw’n rhyddhau rhagor o fanylion nes bod ei deulu wedi cael gwybod. Mae’r crwner wedi ei hysbysu.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Heol y Plase, Bala ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.